Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Cael help
Cwestiynau penodol, talu ar-lein ac ar ôl cyflwyno'r cais
Os bydd gennych gwestiwn penodol am eich cais (er enghraifft, ymholiad am y ffioedd, gofynion dogfennau ategol neu atebion i gwestiynau penodol) dylech gysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol.
Ni all y Planning Portal ateb cwestiynau o'r fath gan mai'r awdurdod cynllunio lleol sy'n gyfrifol am wneud hynny.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â thalu am gais, cysylltwch â'n tîm cymorth.
Ar gyfer ad-daliadau, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol. Os bydd angen ad-daliad, bydd yn dechrau'r broses ac yn gwneud cais i ni am ad-daliad.
Ar ôl i'r cais gael ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol, bydd yn gallu helpu ag unrhyw ymholiadau.
Help gyda'r system gwneud cais ar-lein a chymorth technegol
Mae'r Planning Portal yn darparu sawl opsiwn i gael help gyda'r system gwneud cais:
- Help – Os ydych yn cael anawsterau â'r system gwneud cais, yna gall ein tudalen help roi dolenni i chi i wybodaeth ddefnyddiol a/neu fanylion cyswllt ar gyfer ein Desg Gwasanaeth, yn seiliedig ar eich mater penodol. Dod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer y Ddesg Gwasanaeth1
- Cwestiynau Cyffredin – Atebion i'r ymholiadau mwyaf cyffredin rydym yn eu cael am y system gwneud cais ar-lein a sawl maes arall o'r Planning Portal. Edrych drwy'r Cwestiynau Cyffredin2
- Lanlwytho ffin safle - help3
- https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help
- https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help/cwestiynau-cyffredin
- https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help/offeryn-cynllun-lleoliad