Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Diwygiadau
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, mae camau y gallwch eu cymryd os bydd angen i chi wneud newidiadau cyn i'r Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniad arno.
Gellir newid unrhyw adran o'r cais, gan gynnwys ffin lleoliad y safle, y cwestiynau a atebwyd, y manylion a ddarparwyd, y cynlluniau/dogfennau ategol a lanlwythwyd, ac os bydd y cais eisoes wedi'i dderbyn, y ffi a gyfrifwyd.
Nodwch na allwch newid y math o gais (e.e. o gais deiliad tŷ i gais llawn). Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi ddechrau cais newydd, naill ai drwy ddechrau o'r dechrau neu drwy gopïo cais presennol.
Bydd y camau gofynnol yn dibynnu ar statws y cais.
Cyflwynwyd i'r ACLl
Rydych wedi cyflwyno eich cais, ond nid yw'r awdurdod lleol wedi ei lawrlwytho eto.
Yn y statws hwn, gallwch dynnu'r cais yn ôl er mwyn gwneud newidiadau i'r wybodaeth a nodwyd neu'r ffeiliau a lanlwythwyd. Bydd hyn yn atal yr awdurdod lleol rhag gallu cael mynediad at eich cais hyd nes y byddwch yn dewis ei ailgyflwyno.
Er mwyn gwneud hyn, dylech ddewis eich cais, ac yna ddefnyddio'r botwm 'Tynnu'r cais yn ôl' yn y panel ar frig y sgrin trosolwg.
Bydd y ffi a'r taliad o'r cyflwyniad gwreiddiol yn berthnasol i geisiadau wedi'u tynnu'n ôl, ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw daliad pellach pan fyddwch yn ailgyflwyno'r cais.
I ddiwygio cais a gyflwynwyd:
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif Planning Portal (Cymru) a dewch o hyd i'r cais rydych am ei ddiwygio.
- Pan fyddwch wedi dod o hyd i'r cais, cliciwch ar enw'r cais i'w agor.
- Cliciwch ar y botwm 'Amend Application' ar ochr dde uchaf y dudalen sy'n rhoi trosolwg o'r cais.
- Cliciwch i gadarnhau eich bod am ddiwygio'r cais. Nawr gallwch wneud unrhyw newidiadau.
- Pan fyddwch wedi diwygio cais, bydd angen i chi ddilysu'r ffurflenni (gwirio) a gwneud unrhyw daliad neu ddefnyddio'r 'Gyfrifiannell Ffioedd' i gadarnhau nad oes newid i'r taliad. Yna byddwch yn gallu defnyddio'r botwm 'Delcare and Submit' i gyflwyno eich cais i'r awdurdod lleol.
Er mwyn helpu'r awdurdod lleol gyda'ch cais diwygiedig, argymhellwn eich bod yn atodi dogfen ychwanegol sy'n nodi'r diwygiadau rydych wedi'u gwneud.
ACLl wedi cael y cais
Mae'r awdurdod lleol eisoes wedi lawrlwytho eich cais, felly ni ellir ei dynnu'n ôl.
Yn y statws hwn, bydd angen i chi greu fersiwn newydd o'r cais, gwneud y newidiadau angenrheidiol, a'i ailgyflwyno. Bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cadw'r fersiwn wreiddiol ac ni chaiff ei thynnu'n ôl.
Er mwyn gwneud hyn, dylech ddewis eich cais, ac yna ddefnyddio'r botwm 'Diwygio'r cais' yn y panel ar frig y sgrin trosolwg.
Os bydd eich cais wedi'i dynnu'n ôl neu os bydd yr awdurdod cynllunio lleol eisoes wedi gwneud penderfyniad yn ei gylch, peidiwch â'i ddiwygio – Yn y sefyllfa hon, rhaid cyflwyno unrhyw newidiadau fel cais newydd. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio'r cyfleuster ‘Copïo'r cais’ yn hytrach na gorfod dechrau o'r dechrau.
Byddai bob amser yn werth cysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol i gadarnhau hynt eich cais er mwyn sicrhau y bydd yn fodlon derbyn diwygiad.
Ar gyfer newidiadau bach i geisiadau y gwnaed penderfyniad yn eu cylch, mae'n bosibl yr hoffech gyflwyno cais am ‘ddiwygiad ansylweddol’. Unwaith eto, dylech gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol er mwyn sicrhau y bydd yn fodlon ei dderbyn.
Ffioedd a thaliadau ar gyfer ceisiadau
Bydd y ffi a'r taliad o'r cyflwyniad gwreiddiol yn berthnasol i geisiadau wedi'u tynnu'n ôl, ac ni fydd angen i chi wneud unrhyw daliad pellach pan fyddwch yn ailgyflwyno'r cais.
Dim ond os bydd y ffi gynllunio a gyfrifwyd yn cynyddu oherwydd y newidiadau a wnaed y bydd angen taliad ychwanegol ar gyfer ceisiadau a gaiff eu diwygio. Os bydd y ffi gynllunio yn cynyddu mwy na £100, codir tâl gwasanaeth ychwanegol o £70.83 + TAW.
Os bydd y ffi a gyfrifwyd yn lleihau o ganlyniad i'r newidiadau a wnaed, yna ar ôl i chi ailgyflwyno'r cais, dylech gysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol i drafod unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i chi.
Os bydd angen i chi gyflwyno cais cwbl newydd, yna bydd ffi i'w thalu. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio eithriad yn seiliedig ar y ffaith mai fersiwn ddiwygiedig o gyflwyniad blaenorol yw'r cais.