Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Arfer gorau wrth wneud cais ar-lein
- Cliriwch storfa (cache) eich porwr cyn mewngofnodi i'r Planning Portal – bydd hyn yn sicrhau bod y system yn llwytho'r wybodaeth i mewn i'ch cais yn gywir ac nad oes unrhyw hen wybodaeth i'w gweld.
- Dechreuwch sesiwn newydd drwy fynd i https://cymraeg.planningportal.wales1. Mewngofnodwch i gyfrif sy'n bodoli eisoes neu cofrestrwch am gyfrif os nad oes gennych un.
- Enwch eich cais gan ddefnyddio cyfeiriad y safle – bydd hyn yn eich galluogi i'w adnabod yn hawdd yn nes ymlaen a bydd yn helpu'r awdurdod cynllunio lleol i adnabod eich cais pan fydd yn ei gael.
- Cwblhewch y ffurflenni gan ddefnyddio priflythrennau a llythrennau bach – ysgrifennwch yn ôl yr arfer gan ddefnyddio priflythyren ar ddechrau pob brawddeg – er mwyn helpu'r awdurdod cynllunio lleol i'w prosesu.
- Crëwch archif ar gyfer eich cais unwaith y bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi'i gael. Byddwch yn gwybod bod yr awdurdod cynllunio lleol wedi cael y cais gan y bydd ei statws yn newid i ‘ACLl wedi cael y cais’.
Gohebiaeth electronig
Rydym yn annog defnyddwyr i gynnwys eu cyfeiriad e-bost ar y ffurflen gais bob tro, fel y gall awdurdodau cynllunio lleol gyfathrebu'n electronig â nhw drwy gydol y broses.
Nodwch: Pan gyflwynir cais ar-lein, tybir bod yr ymgeisydd wedi cytuno â'r canlynol:
- i'r awdurdod cynllunio lleol ddefnyddio gohebiaeth o'r fath at ddibenion y cais;
- mai cyfeiriad yr ymgeisydd at y dibenion hynny yw'r cyfeiriad a roddir gyda'r cais;
- y bydd y cytundeb hwn yn parhau nes i'r ymgeisydd hysbysu'r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig i roi'r gorau i ddefnyddio gohebiaeth electronig.
- https://cymraeg.planningportal.wales/