Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Dogfennau Ategol - Atodi dogfennaeth ategol
Mae'r rhan fwyaf o geisiadau yn gofyn am fwy o wybodaeth na'r hyn y gellir ei rhoi ar y ffurflen gais yn unig.
Dogfennau gorfodol
Ni fydd yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yn gallu prosesu eich cais oni fydd yr holl ddogfennaeth ategol orfodol wedi'i darparu.
Nodwch: oni fydd o leiaf un atodiad (neu ddull cyflwyno amgen) wedi'i ddarparu ar gyfer pob eitem orfodol yn yr adran Dogfennau Ategol, ni fydd y system yn gadael i chi gyflwyno eich cais.
Mae dwy lefel o ddogfennau gorfodol, sef rhai cenedlaethol a lleol:
• Cenedlaethol – Bydd y gwasanaeth gwneud cais yn dweud wrthych pa ddogfennaeth orfodol y mae angen i chi ei darparu er mwyn cefnogi eich cais.
• Lleol – Bydd yr ACLl wedi llunio rhestr (bydd fel arfer ar gael o ddolen yn y panel ar y dde ar y sgrin dogfennau ategol, sef 'Gwybodaeth am y gofynion o ran dogfennaeth lefel leol') sy'n nodi unrhyw ddogfennaeth benodol sydd ei hangen gyda'r cais, yn ogystal â'r gofynion cenedlaethol.
Dogfennau dewisol
Gallwch hefyd atodi unrhyw ddogfennaeth berthnasol arall a fydd, yn eich barn chi, yn helpu'r ACLl i benderfynu ar y cais.
Nodwch: Ni ddylech geisio cyflwyno ceisiadau ychwanegol drwy gyflwyno ffurflenni cais PDF wedi'u cwblhau fel dogfennau ategol i gais arall.
Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno ar wahân, ni waeth sut y caiff ei gyflwyno.
Nodwch: Ni all yr ACLl gofrestru cais nes i'r holl ddogfennaeth ategol gael ei chyflwyno. Felly, rydym yn argymell y dylid cyflwyno popeth ar-lein lle y bo'n bosibl, yn hytrach nag anfon rhywfaint o wybodaeth yn y post, er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth gofrestru eich cais.
Heblaw am fanylion cyswllt yr ymgeisydd/ymgeiswyr (rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost), gall yr holl wybodaeth rydych yn ei rhoi ar y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau ategol gael ei chyhoeddi ar wefan yr ACLl. Rydym yn argymell y dylid dileu'r manylion hyn, gan gynnwys llofnodion, o'r dogfennau ategol cyn lanlwytho'r ffeiliau.