Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Ffioedd - Cyfrifo ffioedd y cais
Codir gwahanol ffioedd ar gyfer gwahanol fathau o geisiadau, a chaiff y ffioedd hyn eu pennu gan lywodraeth y DU. Mae'r cyfrifiannell ffioedd yn eich galluogi i benderfynu a oes ffi i'w thalu a beth fydd y ffi honno.
Agorwch y gyfrifiannell ffioedd1
Codir tâl gwasanaeth ar bob cais a wneir ar-lein y mae ffi dros £100 yn berthnasol iddo. Mae'r tâl gwasanaeth yn £70.83 +TAW.
Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y ffi ar gyfer y cais wedi'i chyfrifo'n gywir, nodwch mai'r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) perthnasol sy'n gwbl gyfrifol am benderfynu a yw'r ffi yn gywir. Ar ôl i chi gyflwyno'r cais a thalu amdano, bydd yr ACLl yn gwirio'r ffi fel rhan o'r broses o ddilysu'r cais a bydd yn cadarnhau a yw'r ffi yn gywir.
Os bydd y ffi yn anghywir, dylech gysylltu â'n desg gwasanaeth i gael cymorth.
Eithriadau, gostyngiadau a cheisiadau sy'n ymwneud â mwy nag un ACLl
Ar ôl i ffi gael ei chyfrifo, gallwch ddewis unrhyw ostyngiadau neu eithriadau perthnasol a nodi a yw'r cais o fewn ffiniau mwy nag un ACLl.
Os byddwch yn hawlio eithriad rhag talu (e.e. os bydd y gwaith arfaethedig yn darparu mynediad i bobl anabl i adeilad), neu os byddwch yn hawlio gostyngiad (e.e. os mai datblygiad gan gyngor plwyf sydd dan sylw), yna mae'n bosibl y bydd rhai ACLlau yn gofyn am ddatganiad gyda'ch cais sy'n rhoi'r manylion priodol (bydd angen i chi gysylltu â'r ACLl cyn cyflwyno'ch cais er mwyn cadarnhau hyn).
Os bydd y cais o fewn ffiniau mwy nag un ACLl, yna caiff y ffi ei chynyddu i 150 y cant o'r gwerth gwreiddiol a gyfrifwyd. Mae hyn yn gywir ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau o'r math hwn, ond fel uchod, bydd yr ACLl yn gwirio'r ffi fel rhan o'r broses o ddilysu'r cais a bydd yn cadarnhau a yw'r ffi yn gywir.
- https://cymraeg.planningportal.wales/app/fee-calculator