Offeryn cynllun lleoliad
Cyflwyniad
Mae ein nodwedd cynlluniau lleoliad yn darparu ffordd gyfleus a hawdd ei defnyddio o lunio cynllun lleoliad i ategu ceisiadau cynllunio.
Mae dau gam i'r broses hon, sef:
1) Tynnu ffin y safle
2) Adolygu a llunio'r cynllun lleoliad
Beth yw ffin safle?
Dylai ffin y safle fod wedi'i hamlinellu ar y map a dylai ddangos y prif safle y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
Mae tynnu'r ffin yn eich galluogi i nodi'r safle yn gywir a thynnu sylw'r Awdurdod Lleol at wybodaeth bwysig.

Beth yw cynllun lleoliad?
Dogfen y mae Awdurdod Cynllunio Lleol yn aml yn gofyn amdani fel rhan o gais cynllunio yw cynllun lleoliad. Dylai ddangos lleoliad y datblygiad arfaethedig mewn perthynas â'r ardal o'i gwmpas. Mae hyn yn galluogi'r Awdurdod Lleol i nodi'n gywir y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
Dylai cynllun lleoliad:
- Fod ar raddfa fetrig safonol a nodir (fel arfer 1:1250 neu 1:2500 ar gyfer safleoedd mwy) a dylai ddangos y cyfeiriad i'r gogledd
- Gallu cael ei osod ar ddogfen maint A4
- Dangos nifer ddigonol o ffyrdd a/neu adeiladau ar dir sydd gerllaw safle'r cais
- Dangos ffiniau safle'r cais a'r holl dir sydd ei angen i gyflawni'r datblygiad arfaethedig h.y. y tir sydd ei angen i gael mynediad i'r safle o'r ffordd, wedi'i amlinellu mewn coch
- Dangos llinell las o amgylch unrhyw dir arall y mae'r ceisydd yn berchen arno sy'n agos at yr eiddo neu wrth ei ymyl.
Fel arfer, bydd y cynllun yn dangos y canlynol:
- Ffiniau'r safle
- Ffyrdd a/neu adeiladau ar dir cyfagos
- Y tir sydd ei angen i gyflawni'r datblygiad arfaethedig (wedi'i amlinellu mewn coch)
- Unrhyw dir arall y mae'r datblygwr yn berchen arno sy'n agos at y safle neu wrth ei ymyl (wedi'i amlinellu mewn glas).
Arferai'r ddogfen hon gael ei llunio y tu allan i'r Porth Cynllunio. Bellach, bydd ein system yn rhoi cyfle i chi bennu'r ffin, adolygu a llunio'r cynllun lleoliad sydd ei angen ar gyfer y cais.
Noder: Mae cynllun lleoliad yn wahanol i gynllun safle (a elwir hefyd yn gynllun bloc) sy'n canolbwyntio'n benodol ar roi mwy o fanylion am y datblygiad o fewn ffiniau'r safle.
