Cyflwyno cais cynllunio ar-lein
Y broses gwneud cais ar-lein
Pan fyddwch wedi creu cais newydd neu pan fyddwch yn agor un sy'n bodoli eisoes o'r adran 'Ceisiadau', byddwch yn cael eich tywys i sgrin a fydd yn cynnig trosolwg ar gyfer y cais hwnnw. Mae'r sgrin hon yn eich galluogi i weld a rheoli manylion eich cais.
Mae'r sgrin hon yn dangos enw'r cais, ei rif cyfeirnod ar y Planning Portal (PP), y math o ganiatâd rydych yn gwneud cais amdano, yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad ar eich cais, a statws y cais a'r dyddiad y cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf gennych.
Y broses gwneud cais ar-lein
Gan ddefnyddio adrannau trosolwg y cais, gallwch gwblhau'r tasgau canlynol:
- Cwestiynau – Cwblhau cwestiynau'r cais (mae'r adran hon hefyd yn rhestru holl adrannau'r cwestiynau ac yn dangos bar cynnydd)
- Lanlwytho cynlluniau a dogfennau – Atodi dogfennaeth ategol
- Cyfrifo'r ffi – pennu'r ffioedd ar gyfer y cais
- Cyflwyno cais –
- Cadarnhewch fod y cais yn gyflawn ac yn barod i'w gyflwyno
- Llofnodi a chyflwyno'r cais
- Talu'r ffi ymgeisio a'r tâl gwasanaeth
- Unwaith y bydd y taliad wedi'i dderbyn a'i glirio, bydd y cais a'r ffi ymgeisio yn cael eu cyflwyno i'r ACLl perthnasol.
- Nodir y camau hyn yn yr adran nesaf.