Skip to content

Cyflwyno cais cynllunio ar-lein

Creu cais newydd

Dechreuwch sesiwn newydd drwy fynd i https://cymraeg.planningportal.wales1. Mewngofnodwch i gyfrif sy'n bodoli eisoes neu cofrestrwch am gyfrif os nad oes gennych un.

Mae pob cais yn gofyn am dri manylyn sylfaenol:

  1. Enw – Enw ar gyfer eich cais, rydym yn awgrymu y dylech ddefnyddio cyfeiriad y safle.
  2. Lleoliad – Lleoliad eich datblygiad – dyma fydd yn dylanwadu ar ba awdurdod cynllunio lleol y byddwch yn cyflwyno eich cais iddo.

    Nodwch: Dim ond un awdurdod cynllunio lleol y bydd y system yn ei nodi. Os yw eich safle o fewn ffin mwy nag un awdurdod cynllunio lleol, dylech gysylltu â ni2 pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais.
  3. Math - Y math o gais sydd ei angen arnoch (efallai y byddwch am gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol er mwyn trafod hyn neu edrychwch i weld pa fathau o geisiadau rydym yn eu cynnig3 (Saesneg).  
    Pa fath o gais y dylwn i ei ddewis?4

Nodwch: mae rhai mathau o geisiadau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd drwy ein system ar-lein. Lawrlwythwch ffurflenni PDF.5

Os oes angen help arnoch i ddewis pa fath o gais sydd ei angen arnoch, mae'n bosibl y bydd ein canllawiau o gymorth6.

Ar ôl i chi gadarnhau'r manylion sylfaenol hyn, caiff eich cais newydd ei gadw fel  ‘Drafft’ yn eich adran ‘Ceisiadau’ yn barod i chi ddechrau ei gwblhau neu i chi ddychwelyd i weithio arno'n ddiweddarach.

Gellir cyrchu'r rhestr 'Fy ngheisiadau' drwy fewngofnodi ac edrych ar eich ceisiadau ar y sgrin 'Ceisiadau'.


  1. https://cymraeg.planningportal.wales
  2. https://www.planningportal.co.uk/wales/cymraeg/help
  3. https://www.planningportal.co.uk/planning/planning-applications/consent-types/introduction
  4. https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/1app/ceisiadau_cynllunio_cymru-dewiswr_cais.pdf
  5. https://cymraeg.planningportal.wales/app/downloadable-forms
  6. https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/1app/ceisiadau_cynllunio_cymru-dewiswr_cais.pdf

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.