Sut i wneud cais
Faint mae’n ei gostio
Yn y rhan fwyaf o achosion, codir ffi. Fodd bynnag, ar gyfer rhai cydsyniadau, e.e. cydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth, nid oes angen talu ffi.
Gallwch ofyn i’ch cyngor gyfrifo’ch ffi. Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â’r ffi briodol am eich cais, fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â’ch awdurdod cynllunio lleol cyn cyflwyno’ch cais, gan y bydd oedi cyn prosesu’ch cais os ydych wedi talu’r ffi anghywir.
Mae’r gyfrifiannell ffioedd hefyd yn gam yn y broses gwneud cais ar-lein.
Mae’r refeniw o ffioedd yn cyfrannu at y gost i’r awdurdod lleol am ymdrin â cheisiadau ac nid yw’r ffi yn ad-daladwy oni bai bod y cais yn annilys.
Pan fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn methu â phenderfynu ar eich cais, neu pan fyddwch yn cyflwyno cais dilys ac yna’n ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg cyn y penderfynir arno, ni fydd y ffi yn ad-daladwy. Fodd bynnag, os bydd yr awdurdod lleol yn methu â phenderfynu ar eich cais, gallwch apelio.
Pan fydd cais blaenorol wedi cael ei ganiatáu, ei wrthod neu ei dynnu’n ôl, fel arall gall cais pellach gael ei wneud gan yr ymgeisydd am yr un math o ddatblygiad ar yr un safle am ddim o fewn 12 mis. Yr ACLl fydd yn penderfynu a yw’r consesiwn hwn yn gymwys.
Talu
Mae’n rhaid cyflwyno’r ffi gywir gyda’ch cais.
Gall ffioedd gael eu cyfrifo yn y system gwneud cais ar-lein a’u talu i awdurdodau lleol yng Nghymru drwy un o bedair ffordd:
- Taliad ar-lein diogel drwy gerdyn credyd neu ddebyd yn uniongyrchol i’r awdurdod cynllunio lleol
- Talu drwy siec: bydd y system yn dweud wrthych ble i bostio’r siec pan fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn
- Talu dros y ffôn: bydd y system yn rhoi’r rhif ffôn cywir pan fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn
- Bydd rhai awdurdodau hefyd yn derbyn taliad drwy Drosglwyddiad BACS. Os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn, bydd y system yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am wneud y taliad.