Sut i wneud cais
Beth nesaf?
Unwaith y bydd yr awdurdod wedi cael eich cais, bydd yn ei ddilysu o fewn ei brosesau llif gwaith a’i derfynau amser arferol.
Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch cais, byddwch yn cael e-bost yn cadarnhau hynny drwy wefan Planning Portal. Bydd yr e-bost cadarnhad yn cynnwys rhif cyfeirnod unigryw, a dylech ei ddyfynnu mewn unrhyw ohebiaeth â’r awdurdod. Noder nad yw cadarnhad drwy e-bost yn gyfystyr â derbyn eich cyflwyniad electronig yn ffurfiol gan eich awdurdod cynllunio lleol.
Os bydd angen i’r awdurdod lleol gael rhagor o wybodaeth, neu os bydd ganddo unrhyw ymholiadau, bydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.