Sut i wneud cais
Ffyrdd o wneud cais
Ar-lein
Caiff ymgeiswyr yng Nghymru eu hannog i wneud cais ar-lein drwy’r wefan Ceisiadau Cynllunio Cymru. Mae cwblhau ffurflen ar-lein yn sicrhau mai dim ond y cwestiynau sy’n berthnasol i’ch cais y gofynnir i chi eu hateb. Caiff y ffurflen wedi’i chwblhau ei hanfon ar-lein drwy wefan Ceisiadau Cynllunio Cymru yn uniongyrchol i’r awdurdod cynllunio lleol ei phrosesu. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn fodlon derbyn ceisiadau cynllunio ar-lein.
Dechrau cais cynllunio ar-lein1
Drwy’r broses ar-lein gallwch wneud yr holl geisiadau am ganiatâd cynllunio, heblaw am y rhai sy’n ymwneud â datblygiadau mwynau, a mathau cysylltiedig o gydsyniad.
Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o gydsyniad y gallwch wneud cais amdanynt ar-lein2.
Papur
Fel arall, gallwch lawrlwytho’r ffurflenni safonol ar bapur o’r Porth Cynllunio neu wefan yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol a’u hanfon drwy’r post.
Dewis, lawrlwytho ac argraffu ffurflen bapur3
- https://1app.planningapplications.gov.wales/app
- https://www.planningportal.co.uk/wales/applications/consent-types/introduction
- https://1app.planningapplications.gov.wales/app/downloadable-forms