Sut i wneud cais
Cyngor cyn gwneud cais
Yn aml, mae’n syniad da cyfarfod â swyddog cynllunio am drafodaeth anffurfiol cyn i chi gyflwyno cais. Mae rhai awdurdodau cynllunio lleol yn codi ffi am y gwasanaeth hwn felly mae’n syniad da holi’n gyntaf. Mae hefyd yn gwestiwn y bydd yn rhaid i chi ei ateb yn y ffurflen gais a gall helpu’r ACLl wrth iddo ymdrin â’ch cais.
Rydych yn cael eich annog i gael cyngor cyn gwneud cais oherwydd gall:
- Er mwyn cadarnhau’r rhestr o ofynion lleol y gall pob awdurdod cynlllunio ofyn i chi gydymffurfio â nhw, darllenwch fwy am ofynion lleol a chenedlaethol1
- Ei gwneud yn llai tebygol y byddwch yn cyflwyno ceisiadau annilys
- Eich helpu i ddeall sut mae polisïau cynllunio a gofynion eraill yn effeithio ar eich cynigion
Os byddwch yn cyfarfod â swyddog cynllunio dylech fod yn hollol barod i ddisgrifio’ch cynigion a dangos cynlluniau. Gallwch:
- gofyn am asesiad i weld a oes siawns resymol o gael caniatâd;
- trafod problemau gyda’r safle fel ffyrdd, llwybrau troed, ceblau pŵer, cyrsiau dŵr, carthffosydd a llinellau ffôn;
- holi am broblemau posibl fel sŵn a thraffig ac a fyddai’r cyngor o bosibl yn gosod amodau i oresgyn y problemau hyn yn hytrach na gwrthod rhoi caniatâd cynllunio.
Mae lefel y gwaith paratoi sydd ei angen yn dibynnu ar yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud. Mewn achosion syml, dylai fod yn ddigon i edrych ar y prif faterion sy’n llywodraethu’r broses o roi caniatâd a phenderfynu pa rai sy’n berthnasol i’ch cais. Dweud pam y dylai’ch datblygiad arfaethedig gael caniatâd yn eich barn chi.
Gan y bydd ceisiadau cynllunio yn cael eu penderfynu yn unol â’r cynllun datblygu fel arfer, bydd angen i chi gyfiawnhau unrhyw gynigion a fyddai’n gyfystyr ag eithriad i’r cynllun.
- https://www.planningportal.co.uk/wales/applications/how-to-apply/what-to-submit