Sut i wneud cais
Dewis eich cais
Mae eich system gwneud cais yn cwmpasu nifer o gysyniadau y gellir gwneud cais amdanynt ar-lein. Gellir hefyd wneud cais am gydsyniadau lluosog, er enghraifft, cydsyniad cynllunio llawn a chydsyniad adeilad rhestredig. Mae mathau ychwanegol o gydsyniadau ar gael ar ffurf ffeiliau PDF y gellir eu lawrlwytho.
Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud cais am y cydsyniad cywir, neu fel arall bydd eich cais yn annilys. Gallwn roi arweiniad ar ddewis y math cywir, ond mae hefyd yn syniad da gofyn i’ch awdurdod cynllunio lleol nodi’r math o gydsyniad sydd ei angen. Dylai hefyd fod mewn sefyllfa i gynghori ar gyfyngiadau lleol yn yr ardal lle rydych yn bwriadu gwneud gwaith ac unrhyw ganiatadau eraill sydd eu hangen o bosibl.
Noder mai mater ar wahân i gael caniatâd cynllunio ar gyfer eich gwaith yw cymeradwyaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth am fathau o gydsyniad1.
- https://www.planningportal.co.uk/wales/applications/consent-types