Sut i wneud cais
Pwy all wneud cais
Os dymunwch, gallwch benodi asiant i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar eich rhan. Er enghraifft, efallai y byddai’n well gennych ofyn i’ch pensaer, eich cyfreithiwr neu’ch adeiladwr fod yn gyfrifol am gyflwyno cais.
Nid oes gwir angen i chi fod yn berchen ar dir i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais am ganiatâd cyn penderfynu p’un a hoffech brynu darn o dir ai peidio.
Mae’n rhaid hysbysu’r bobl ganlynol am gais cynllunio mewn perthynas â thir neu adeiladau y mae ganddynt fuddiant ynddo neu ynddynt:
- Perchennog neu bob rhan-berchennog (os nad chi yw’r perchennog llawn)
- Unrhyw lesddeiliaid y mae eu les yn para o leiaf saith mlynedd arall
- Unrhyw denantiaid amaethyddol
Cael help gyda’ch cais
Efallai y bydd angen help ar ymgeiswyr ac apelyddion o nifer o ffynonellau gwahanol. Efallai y bydd pobl a sefydliadau lleol yn barod i gynnig cymorth fel amaturiaid, ond gall cymorth proffesiynol fod yn ddefnyddiol hefyd.
Er mwyn cael help gan gynllunwyr proffesiynol, ewch i’r gofrestr o ymgynghorwyr cynllunio1 sy’n cael ei llunio gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol. Fel arfer bydd angen talu ffioedd am y gwasanaeth hwn.
Er mwyn cael cymorth cost isel neu am ddim, dylid cysylltu â’r grŵp mawr o gynllunwyr proffesiynol sy’n cynnig cymorth gwirfoddol i aelodau o’r cyhoedd drwy’r rhwydwaith Planning Aid2 sy’n cael ei redeg gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.
- http://www.rtpiconsultants.co.uk/
- http://www.rtpi.org.uk/planningaid/