Skip to content

Sut i wneud cais

Beth i’w gyflwyno

Gwybodaeth Ategol

Mae’n rhaid i’ch cais gynnwys:

  • cynlluniau angenrheidiol ar gyfer y safle
  • y ddogfennaeth ategol ofynnol
  • y ffurflen wedi’i chwblhau
  • y ffi gywir.

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch cais bydd yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol.

Ni fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn gallu prosesu eich cais oni fydd yr holl ddogfennaeth ategol orfodol wedi’i darparu. Gallwch hefyd atodi unrhyw ddogfennaeth berthnasol arall a fydd, yn eich barn chi, yn helpu’r awdurdod lleol i benderfynu ar y cais.

Noder – ni fydd modd cyflwyno gwybodaeth ategol ar-lein oherwydd ei maint a’i hamrywiaeth. Os felly, gellir cyflwyno gwybodaeth ar ffurf copi caled (tri chopi ynghyd â’r copi gwreiddiol) neu’n electronig (e.e. CD, dyfais storio USB), hyd yn oed os yw’r cais wedi cael ei gyflwyno drwy’r Porth. O dan yr amgylchiadau hyn caiff ymgeiswyr eu hysbysu am ddilysrwydd eu cais pan fydd yr ACLl wedi’i fodloni ei fod wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Noder: Efallai y bydd gan eich awdurdod lleol ei ddull derbyniol ei hun i chi roi gwybodaeth ategol. Gofynnwch i’ch awdurdod lleol beth ydynt cyn ei chyflwyno.

Mae dwy lefel o ddogfennau gorfodol: cenedlaethol a lleol. Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, bydd y gwasanaeth yn dweud wrthych pa ddogfennaeth orfodol y bydd angen i chi ei darparu ac yn gadael i chi atodi’r dogfennau perthnasol. Os byddwch yn anfon y cais drwy’r post, bydd angen o leiaf dri chopi o’r ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol, gan gynnwys cynlluniau, ond efallai y bydd rhai awdurdodau cynllunio yn gofyn am fwy.

 

Dogfennau gorfodol

Gofynion cenedlaethol

Mae’n rhaid i chi, o leiaf, ddarparu’r dogfennau canlynol er mwyn i’ch cais cynllunio fod yn ddilys:

  • Y ffurflen gais safonol
  • Ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio gofynnir i chi gyflwyno dau gynllun fel dogfennau ategol:
  • Mae’n rhaid i dystysgrif perchenogaeth A, B, C neu D gael ei chwblhau, sy’n nodi pwy sy’n berchen ar yr eiddo.
  • Tystysgrif daliadau amaethyddol – mae angen hon p’un a yw’r safle yn cynnwys daliad amaethyddol ai peidio. Mae’n rhaid i bob tenant amaethyddol gael ei hysbysu cyn i’r cais gael ei gyflwyno.
  • Datganiad dylunio a mynediad (os oes angen un) – dylai hwn amlinellu’r egwyddorion a’r cysyniadau dylunio sydd wedi cael eu cymhwyso at y datblygiad arfaethedig a sut yr ymdrinwyd â materion sy’n ymwneud â mynediad i’r datblygiad. Rhagor o wybodaeth am ddatganiadau dylunio a mynediad3.
  • Ffi gywir am wneud cais.


Gofynion lefel leol

Yn ychwanegol at y rhestr genedlaethol, efallai y bydd eich awdurdod cynllunio lleol yn paratoi rhestr sy’n manylu ar unrhyw ddogfennaeth benodol y mae angen ei chyflwyno ar y cyd â’r cais. Gall y gofynion amrywio yn ôl y math o gais, h.y. cartref, llawn, amlinellol, ac ati. Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, mae’r rhestr hon ar gael drwy ddolen ar ochr dde’r panel ar y sgrin ar gyfer dogfennau ategol.

Fel arall, mae’r gofynion lleol ar gael ar wefan yr ACLl perthnasol.

Dod o hyd i’ch Awdurdod Cynllunio Lleol4


Hysbysiadau i berchnogion a thenantiaid amaethyddol

Yn dibynnu ar berchnogaeth y tir ac a yw o dan Denantiaeth Amaethyddol, efallai y bydd angen i chi anfon hysbysiadau at unrhyw berchnogion neu denantiaid amaethyddol cyn cyflwyno’ch cais. Bydd angen darparu manylion am y perchnogion neu’r tenantiaid amaethyddol a’r dyddiad y cawsant eu hysbysu fel rhan o’r cais hefyd.

Ystyr ‘perchennog’ yw person sydd â buddiant lesddaliadol neu lesddaliad sydd ag o leiaf saith mlynedd yn weddill.

Ystyr ‘tenant amaethyddol’ yw tenant daliad amaethyddol, y mae unrhyw ran ohono wedi’i chynnwys yn y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

Templedi hysbysiadau, a phryd i ddefnyddio pa hysbysiad

Ar gyfer ceisiadau cynllunio i ddeiliaid tai, gellir defnyddio Hysbysiad Deiliad Tŷ5 ym mhob sefyllfa.

Ar gyfer yr holl geisiadau perthnasol eraill:

  • Pan fydd perchnogion y tir yn hysbys, rhaid cyflwyno Hysbysiad 16 i bob perchennog neu denant amaethyddol hysbys. Gall hyn fod yn gymwys pan fydd tystysgrif perchnogaeth B neu C yn berthnasol.
  • Pan fydd rhai neu bob un o’r perchnogion yn anhysbys, rhaid cyhoeddi Hysbysiad 27 mewn papur newydd lleol. Gall hyn fod yn gymwys pan fydd tystysgrif perchnogaeth C neu D yn berthnasol.
  • Efallai y bydd angen cymysgedd o’r uchod os bydd rhai, ond nid pob un, o’r perchnogion yn hysbys.


Dolenni cysylltiedig:

Canllawiau ar y gofynion o ran gwybodaeth a dilysu8


Data personol a cheisiadau cynllunio

Noder, ac eithrio manylion cyswllt yr ymgeisydd (rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost), mae’n bosibl y caiff yr holl wybodaeth a ddarparwch ar y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau ategol ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol sy’n ymdrin â’ch cais.

Er mwyn osgoi cyhoeddi manylion personol, peidiwch â’u cynnwys, nac unrhyw wybodaeth arall sy’n dod o dan y diffiniad o ddata personol o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mewn dogfennau sy’n ategu’ch cais.

Os bydd angen i chi gael mwy o eglurder, cysylltwch ag adran gynllunio eich awdurdod lleol.

  1. https://www.planningportal.co.uk/homepage/4/buy_a_plan
  2. https://www.planningportal.co.uk/homepage/4/buy_a_plan
  3. http://www.planningportal.gov.uk/planning/applications/howtoapply/whattosubmit/designaccess
  4. https://gov.wales/find-your-local-planning-authority
  5. https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/1app/notices/householder_notice_wales.pdf
  6. https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/1app/notices/notice1_wales.pdf
  7. https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/1app/notices/notice2_wales.pdf
  8. http://planningguidance.communities.gov.uk/blog/guidance/making-an-application/validation-requirements/

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.