Offeryn cynllun lleoliad
Lanlwytho ffin safle
Allforio ffeil geo-ofodol
Gyda rhai adnoddau meddalwedd proffesiynol penodol, os byddwch wedi llunio ffin eich safle eisoes, gallwch ddewis lanlwytho data'r lleoliad i'r Porth Cynllunio. Rydym yn derbyn fformatau ffeil .JSON a gallwch allforio'r math hwn o ffeil o feddalwedd QGIS neu ArcGIS i'r nodwedd mapiau.
Lanlwytho ffeil geo-ofodol
Ar ôl i'r ffeil gael ei hallforio, cliciwch, neu llusgwch y ffeil i, adran ‘Lanlwytho ffiniau safleoedd’ y Porth Cynllunio a bydd ein system yn ei lanlwytho i'r adnodd mapio ffiniau safleoedd.

Dangosir y ffiniau wedi'u mewnforio fel llinellau ffin du. Bydd angen i chi nodi pa linellau ffin sy'n dangos prif safle'r cais. Bydd hyn yn troi'r ffin ddu yn goch, gan ddangos bod y ffin wedi'i phennu.
Os bydd unrhyw eiddo cysylltiedig ychwanegol i'w gynnwys, gallwch ddewis yr adnodd ‘Ffin linell las’ a pharhau i farcio yn yr un ffordd. Cwblhewch hyn drwy glicio ar ‘Cadarnhau dewis’ i barhau â'ch cais.
