Skip to content

Offeryn cynllun lleoliad

Llunio ffin safle

Pan fyddwch yn dechrau defnyddio'r adnodd ar gyfer ffin y safle, dangosir lleoliad y safle a gofnodwyd gennych ar ddechrau'r cais, fel cod post neu gyfeirnod grid, ar y map fel marciwr pin glas.

Ffin linell goch

Siâp sy'n nodi prif safle eich cais yw'r ffin linell goch. Dim ond un ffin linell goch fydd.

Dylai eich ffin linell goch gynnwys y safle cyfan, h.y., y tir sydd ei angen ar gyfer mynediad i'r safle, lleoedd parcio, gerddi ac adeiladau allan eraill o amgylch y safle, fel garejis.

Ar gyfer pob cais, p'un a yw ar gyfer datblygiad preswyl, gwledig neu fasnachol, mae'n hanfodol dangos mynediad y safle i ffyrdd a mannau lle y gallai ymuno â'r briffordd gyhoeddus.

Animation of drawing a red line boundary

Ffin linell las

Dylai'r ffin linell las gael ei defnyddio i nodi unrhyw dir arall y mae'r ceisydd yn berchen arno sy'n agos at y safle datblygu neu wrth ei ymyl.

Gall fod dim un, un neu sawl ffin linell las yn cael ei dangos/eu dangos ar gynllun lleoliad safle ar gyfer un cais.

Image showing red and blue boundary on map

Tynnu ffin safle

Gallwch dynnu ffin y safle gan ddefnyddio naill ai'r adnodd awtolenwi neu'r adnodd tynnu â llaw sydd ar gael.

Adnodd tynnu drwy awtolenwi

Ar ôl dewis yr adnodd awtolenwi, dylech hofran dros ardal y safle a chaiff ffin y safle ei hamlygu. Yna, cliciwch ar ‘Gorffen tynnu’ er mwyn cadarnhau bod y ffin wedi'i nodi.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad, gallwch glicio ar ‘Ailbennu ffiniau’ er mwyn i chi allu ailddechrau tynnu'r ffin yn hawdd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio ar yr ardaloedd o fewn siâp y ffin er mwyn sicrhau eu bod wedi'u cynnwys hefyd.

Showing autofill of a border on a map

Adnodd tynnu â llaw

Ar ôl dewis yr adnodd tynnu â llaw, dechreuwch dynnu ffin y safle drwy glicio unwaith ar unrhyw gornel o'r safle. Mae pob clic yn cynhyrchu pwynt cornel a llinell ffin gysylltiol. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn dyblygu eich llinellau ffin.

Parhewch i blotio pwyntiau fel hyn er mwyn tynnu siâp eich ffin, nes eich bod yn fodlon ei bod yn gywir.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad, gallwch glicio ar ‘Ailbennu ffiniau’ er mwyn i chi allu ailddechrau tynnu'r ffin yn hawdd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio ar yr ardaloedd o fewn siâp y ffin er mwyn sicrhau eu bod wedi'u cynnwys hefyd.

How to freehand draw a map border

    The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.