Offeryn cynllun lleoliad
Adolygu a llunio cynllun o leoliad safle
Mae cynlluniau lleoliad a gaiff eu creu ar y Porth Cynllunio yn gwirio yn erbyn y meini prawf deddfwriaethol canlynol:
- Dangos y cyfeiriad i'r gogledd
- Modd eu gosod ar feintiau dogfen A4 neu A3
- Yn ôl graddfa (fel arfer 1:1250 neu 1:2500 ar gyfer safleoedd mwy)
- Darparu rhif trwydded Arolwg Ordnans
- Llunio map cyfredol
Noder: Mae gan Awdurdodau Cynllunio Lleol ofynion lleol ar gyfer cynlluniau lleoliad dilys. Byddwn yn darparu canllawiau ac adnoddau i fodloni gofynion cenedlaethol, eich cyfrifoldeb chi yw adolygu a llunio'r cynllun lleoliad mor gywir â phosibl.
Os na fyddwch yn siŵr a yw eich cynlluniau yn addas neu os bydd angen cymorth pellach arnoch, dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol i gael cyngor.
Bydd adolygu eich cynllun lleoliad yn eich galluogi i lunio cynllun lleoliad dilys
Mae'r cam adolygu yn eich annog i gadarnhau bod eich cynllun lleoliad yn bodloni'r gofynion. Bydd y camau adolygu yn eich annog i gadarnhau bod y canlynol wedi'u cynnwys:
- Ffin y safle (ffin linell goch)
- Unrhyw dir neu adeiladau cyfagos neu gyffiniol ychwanegol, os yw'n gymwys (ffin linell las)
- Dwy ffordd neu fwy wedi'u henwi os yw'n bosibl, neu os nad yw'n bosibl, un ffordd wedi'i henwi a thirnod.

Enghraifft o gynllun lleoliad dilys

Awgrymiadau ar gyfer cynllun lleoliad dilys
Mae'r broses adolygu yn sicrhau bod modd nodi safle eich ffin. Gwneir hyn drwy ddarparu dwy eitem o fanylion sy'n ymwneud â lleoliad ffin eich safle. Fel arfer, gwneir hyn drwy ddangos enwau dwy ffordd wahanol.
Fodd bynnag, efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Felly, er mwyn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich cais yn ddilys, gallwch nodi enw un ffordd a thirnod ar gais, os oes angen.
Ymhlith y tirnodau y gallwch ystyried eu nodi mai afonydd, llynnoedd, eglwysi, ffermydd, ysguboriau, pyllau, adeiladau hanesyddol (tyrau, cestyll), mynwentydd, parciau, caeau pêl-droed, clybiau golff neu lwybrau cyhoeddus.
Gallwch ychwanegu enwau ffyrdd a thirnodau drwy ddefnyddio'r cyfleuster ‘labeli’ wrth dynnu ffin y safle.
Awgrymiadau ar gyfer adolygu
- Sicrhewch fod ffin y safle yn weladwy
- Mae enwau dwy ffordd wahanol yn weladwy
- Neu enw un ffordd a thirnod