Skip to content

Hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â'r Planning Portal.

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan TerraQuest Solutions Ltd. Rydym am i gynifer o bobl ag y bo modd allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun lifo oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml ag y bo modd i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet1 gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.


Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw rhai botymau neu weithrediadau yn cyhoeddi newid i dudalen ganlyniadol yn briodol
  • Mae rhai mân broblemau o ran cyferbynnedd lliwiau ar ein prif dudalennau cynnwys.
  • Nid yw nodweddion y mapiau yn hygyrch ond mae opsiynau amgen ar gael e.e. botymau chwyddo i mewn/allan, botwm ailosod, lanlwytho cynllun yn lle creu un o'r newydd, ac ati
  • Ceir rhai problemau hygyrchedd mewn PDFs.


Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol cysylltwch:

Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm (ac eithrio gwyliau banc). 


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch ar draws broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os byddwch yn meddwl nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch: support@planningportal.co.uk3


Y weithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)4.


Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae TerraQuest Solutions Ltd yn ymrwymedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.


Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.25 safon AA, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.


Technolegau cynnwys y we y dibynnir arnynt

Y technolegau y mae'r wefan hon yn dibynnu arnynt yw: JavaScript


Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.


Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid yw rhai elfennau cynnwys mewn rhestrau yn elfennau <li>; ni sylwyd ar unrhyw effaith yn yr achosion hyn. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 A 1.3.1 (Gwybodaeth a Chydberthnasau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2025.
  • Mae rhai mân broblemau o ran cyferbynnedd lliwiau ar y tudalennau cynnwys, lle mae'r testun wedi'i osod ar ben delweddau. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 AA 1.4.3 (Isafswm Cyferbynnedd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.
  • Nid oes gan rai elfennau ffurf label neu rôl. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 AA 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.


Hygyrchedd PDFs

  • Caiff PDFs eu creu heb destun amgen; ar y cyfan, nid yw hyn yn effeithio ar hygyrchedd y PDF. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 A 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.
  • Nid yw'r tablau a'r rhestrau mewn PDFs a luniwyd wedi'u cyfleu mewn ffordd y gellir eu deall yn glir gan ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 A 1.3.1 (Gwybodaeth a Chydberthnasau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.
  • Caiff PDFs eu llunio heb dagio i nodi'r drefn darllen, ac felly nid ydynt yn cynnwys trefn darllen na thabiau rhesymegol Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 A 1.3.2 (Dilyniant Ystyrlon) a 2.4.3 (Trefn Ffocws) . Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.
  • Caiff PDFs eu creu heb deitl ym mhriodweddau'r ddogfen. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 A 2.4.2 (Teitlau Tudalennau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.
  • Nid yw prif iaith y PDFs wedi'i nodi. Nid yw hyn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.2 A 3.1.1 (Iaith Tudalennau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Hydref 2025.


Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Ionawr 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ym mis Chwefror 2025 a'i ddiweddaru ar 05 Chwefror 2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 18 Hydref 2024. Cynhaliwyd y prawf gan TerraQuest Solutions Ltd.

Cafodd pob tudalen ei phrofi gan ddefnyddio axe, yr adnodd hygyrchedd wedi'i awtomeiddio, a chyfres o achosion profi hygyrchedd â llaw cynhwysfawr a adolygodd y dudalen yn erbyn meini prawf Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Lefel A ac AA. Y darllenydd sgrin a ddefnyddiwyd ar gyfer y gwaith profi oedd NVDA.

  1. https://mcmw.abilitynet.org.uk/
  2. mailto:support@planningportal.co.uk
  3. mailto:support@planningportal.co.uk
  4. https://www.equalityadvisoryservice.com/
  5. https://www.w3.org/TR/WCAG22/

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.

The Planning Portal is delivered by PortalPlanQuest Limited which is a joint venture between TerraQuest Solutions Limited and the Ministry of Housing, Communities & Local Government (MHCLG). All content © 2025 Planning Portal.