Telerau ac amodau
Cwcis
Diweddarwyd ddiwethaf: Chwefror 2025
Beth yw cwcis?
Mae gwefan y Planning Portal (https://www.planningportal.co.uk/1 https://www.planningportal.wales2, a https://www.cymraeg.planningportal.wales3) yn defnyddio cwcis, sef ffeiliau bach electronig o lythrennau a rhifau sy'n cael eu trosglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur drwy eich porwr gwe. Mae hyn yn caniatáu i ni adnabod eich porwr ac yn ein helpu i olrhain ymwelwyr â'n gwefan, sy'n ein galluogi i ddeall yn well y cynhyrchion a'r gwasanaethau a fydd fwyaf addas i chi.
Rydym yn defnyddio'r mathau canlynol o gwcis:
- Cwcis cwbl angenrheidiol: Mae angen y cwcis hyn er mwyn i'n gwefan weithio. Maent yn cynnwys, er enghraifft, cwcis sy'n eich galluogi i fewngofnodi i rannau diogel o'n gwefan. Caiff y rhain eu gosod yn awtomatig pan fyddwch yn cyrraedd y wefan am y tro cyntaf ac wrth i chi symud o'i chwmpas, gan gynnwys pan fyddwch yn mewngofnodi i'n llwyfan.
- Cwcis dadansoddol neu berfformiad: Mae'r rhain yn ein galluogi i gydnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae ymwelwyr yn symud o gwmpas ein gwefan wrth iddynt ei defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i wella'r ffordd y mae ein gwefan yn gweithio, er enghraifft, drwy sicrhau bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano yn hawdd.
- Cwcis swyddogaethol: Caiff y rhain eu defnyddio i'ch adnabod pan fyddwch yn dychwelyd i'n gwefan a'n llwyfan. Mae hyn yn ein galluogi i bersonoli ein cynnwys i chi a chofio eich dewisiadau (er enghraifft, eich dewis iaith neu ranbarth).
Gall cwci gynnwys eich manylion mewngofnodi a gwybodaeth i'n galluogi i adnabod eich cyfrifiadur pan fyddwch yn symud o gwmpas ein gwefan. Defnyddir hyn i'ch helpu i gael gafael ar y wybodaeth angenrheidiol i gefnogi eich cais a gwella eich profiad fel defnyddiwr.
- https://www.planningportal.co.uk/
- https://www.planningportal.wales/
- https://www.cymraeg.planningportal.wales/