Why is there a service charge for submitting some planning applications?
The Planning Portal launched the payment service for planning applications, also known as Financial Transaction Service (FTS), in 2018. This is a payment service that has brought many benefits to applicants and local planning authorities. Since this date, a service charge has been applied to some online planning applications that attract a planning fee of over £60 - applications with a planning fee below this threshold do not incur the service charge.
The service charge is £58.33 +VAT.
The payment service has vastly improved the process of submitting and receiving planning applications for all our users, but of course costs money to run. This income also allows us to invest in developing our services, including:
- The range of free-to-use content and interactive guidance to explain planning, from permitted development on common projects through to applying for planning permission for homeowners and others
- Free-to-use technical and legislative content for planning and building professionals
- A dedicated customer support team available 9am – 5pm to support customers
- And, of course, the planning application service itself, including increasing the maximum file size of supporting documents, e-enabling further application types and improvements to local validation, amongst many others
Find out more about the Financial Transaction Service1
You can find further information in our FAQs2 which we will continue to update if new questions arise.
For anything which is not covered please contact our Support Team on 0333 323 4589 or by email at support@planningportal.co.uk3.
Pam mae taliadau gwasanaeth ar gyfer cyflwyno ceisiadau cynllunio?
Lansiodd y Porth Cynllunio y gwasanaeth taliadau ar gyfer ceisiadau cynllunio, a elwir hefyd yn Wasanaeth Trafodiadau Ariannol yn 2018. Mae hwn yn wasanaeth taliadau sydd wedi dod â llawer o fuddiannau i ymgeiswyr ac awdurdodau cynllunio lleol. Ers y dyddiad hwn, codir tâl gwasanaeth ar rai ceisiadau cynllunio ar-lein sy'n denu ffi cynllunio o fwy na £60 – ni chodir y tâl gwasanaeth ar geisiadau sydd â ffi cynllunio islaw'r trothwy hwn.
Mae'r tâl gwasanaeth yn £58.33 +TAW.
Mae'r gwasanaeth taliadau wedi gwella'r broses o gyflwyno a derbyn ceisiadau cynllunio ar gyfer ein holl ddefnyddwyr, ond wrth gwrs, mae'n costio i'w redeg. Mae'r incwm hwn hefyd yn ein galluogi i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu ein gwasanaethau, gan gynnwys:
- Yr amrywiaeth o gynnwys sydd am ddim i'w ddefnyddio a chanllawiau rhyngweithiol i esbonio'r broses gynllunio, o ddatblygiadau a ganiateir ar brosiectau cyffredin i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer perchnogion tai ac eraill
- Cynnwys technegol a deddfwriaethol am ddim i'w ddefnyddio ar gyfer gweithwyr cynllunio ac adeiladu proffesiynol
- Mae tîm cymorth cwsmeriaid ymroddedig ar gael rhwng 9am a 5pm i gefnogi cwsmeriaid
- Ac, wrth gwrs, y gwasanaeth ceisiadau cynllunio ei hun, gan gynnwys cynyddu uchafswm maint ffeil dogfennau ategol, e-alluogi mwy o fathau o geisiadau a gwelliannau i brosesau dilysu lleol, ymysg llawer o bethau eraill
Rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Trafodiadau Ariannol4
Mae rhagor o wybodaeth yn ein Cwestiynau Cyffredin5 y byddwn yn parhau i'w diweddaru os bydd cwestiynau newydd yn codi.
Am unrhyw beth na chaiff ei gwmpasu cysylltwch â'n Tîm Cymorth ar 0333 323 4589 neu dros e-bost yn support@planningportal.co.uk6.
- https://www.planningportal.co.uk/services/help/faq/applications/planning-applications/what-is-the-financial-transaction-service
- https://ecab.planningportal.co.uk/Uploads/PPQ_LPA_Guidance_and_FAQs.pdf
- mailto:support@planningportal.co.uk
- https://www.planningportal.co.uk/services/help/faq/applications/planning-applications/what-is-the-financial-transaction-service
- https://ecab.planningportal.co.uk/Uploads/PPQ_LPA_Guidance_and_FAQs.pdf
- mailto:support@planningportal.co.uk